Rhydychen, Llsgr. Coleg yr Iesu 111 (Llyfr Coch Hergest) – tudalen 63v
Brut y Tywysogion
63v
252
char y brenhin. A hedychu a|ỽnaeth
a|chadỽgaỽn y vraỽt. ac y rodi keredigy+
aỽn a ran o poỽys. ac odyna mynet a|ỽ+
naeth Jorwoerth at y brenhin. a theby+
gu y|r brenhin cadỽ y edewit ỽrthaỽ. a|r
brenhin heb gadỽ amot. ac ef a|duc y
gantaỽ dyfet ac a|e rodes y neb·vn var+
chaỽc a elwit saer. ac ystrat tywi a
chedweli a gỽhyr a rodes y howel a
gronỽ. ac y kyfrỽg hỽnnỽ y delit gro+
nỽ uab rys. ac y|bu uarỽ yn|y garchar
Yn|y vlỽydyn rac ỽyneb gỽedy dyrchauel
o|vagnus vrenhin germania hỽyleu ar
ychydic o logeu. a diffeithaỽ a|oruc ter+
vyneu prydein. a phan welas y prydein+
wyr hynny. Megys morgrugyon o dyỻeu
y gogofeu y kyfodassant yn gadoed y
ymlit eu hanreith. a|phan welsant y
brenhin ac ychydic o nifer y·gyt ac ef
Kyrchu yn ehofyn a|orugant a gossot
brỽydyr yn|y erbyn. a|phan welas y bren+
hin hynny. kyweiryaỽ bydin a|oruc heb
edrych ar amylder y elynyon a bychanet
y nifer ynteu. herwyd moes yr albanwyr
drỽy goffau y anneiryf vudugolyaeth+
eu gynt. kyrchu a|oruc yn agkyfleus.
a gỽedy gỽneuthur y vrỽydyr a ỻad
ỻaỽer o|pob tu. yna o gyfarsagedigae+
th ỻuoed ac amylder niferoed y elynyon
y ỻas y brenhin. ac yna y gelwit Jorwo+
erth uab bledyn y amỽythic drỽy dỽyỻ
kygor y brenhin. ac y dosparthỽyt y
dadleuoed a|e negesseu. a phan doeth ef.
Yna yd|ymchoelaỽd yr hoỻ dadleu yn|y er+
byn ef. ac ar hyt y|dyd y dadleuỽyt ac ef
ac yn|y diwed y barnỽyt yn gamlyryus.
a gỽedy hynny y barnỽyt y garchar y
brenhin. nyt herwyd kyfreith. namyn
herỽyd medyant. ac y·na y paỻaỽd y hoỻ
obeith a|e kedernit a|e hechyt* a|e didanỽ+
ch y|r hoỻ vrytanyeit. Y vlỽydyn rac ỽy+
neb y bu uarỽ owein uab etwin drỽy
hir glefyt. ac yna yd ystores Rickart
uab baldwin gasteỻ ryt y gors. ac y
gyrrỽyt howel uab gronỽ ymeith o|e gy+
foeth y gỽr a|orchymynnassei henri vrenhin
253
keitwadaeth ystrat tywi a ryt y gors
ac ynteu a|gynhuỻaỽd anreitheu drỽy
losgi tei a|diffeithaỽ hayach yr hoỻ w+
ladoed a|ỻad ỻaỽer o|r ffreinc a|oedynt
yn ym·choelut adref. ac ynteu a gych+
wynnaỽd y wlat o bop tu. ac a|e hachu+
baỽd. a|r|casteỻ a|drigyaỽd yn digyffro
a|e wercheitweit yndaỽ. Yg|kyfrỽg
hynny y gỽrthladaỽd henri vrenhin
Saer Marchaỽc o penuro. ac y rodes
keitwadaeth y kasteỻ a|e hoỻ teruy+
neu y heralt ystiwert yr hỽnn a|oed
dan ernỽlf ystiwert. Y vlỽydyn hon+
no y ỻas Howel uab goronỽ drỽy dỽyỻ
y gan y ffreinc a|oedynt yn kadỽ ryt
y gors. Gỽrgaỽn uab Meuruc y gỽr a
oed yn meithryn mab y howel a|ỽ+
naeth y vrat ual hynn. Galỽ a|ỽnaeth
gỽgaỽn howel y ty a|e wahaỽd. ac
anuon y|r casteỻ a|galỽ y ffreinc at+
taỽ. a menegi udunt eu teruynedic
le ac aros amser yn|y nos. ac ỽynteu
a|deuthant amgylch pylgein a chylchy+
nu y dref a|r ty yd oed howel yndaỽ.
a dodi gaỽr. ac ar|yr aỽr y duhunaỽd
howel yn dilesc. a cheissaỽ y arueu. a
duhunaỽ y gedymdeithon. a|r cledyf
a|ry daroed idaỽ y dodi ar benn y wely
a|e wayw is y traet. a|ry|dygassei gadỽ+
gaỽn tra yttoed yn kyscu. a howel a geis+
saỽd y getymdeithon ỽrth ymlad a the+
bygu eu bot yn baraỽt. ac neur daro+
ed udunt ffo. ar yr aỽr gyntaf o|r
nos. ac yna y goruu arnaỽ ynteu fo
a gỽgaỽn a|e hymlidyaỽd yn graff y+
ny delis megys y hedewis. a phan|deuth
kedym deithon kadỽgaỽn attaỽ
tagu hoỽel a|orugant. a|r tagedic yn
uarỽ haeach a dugant at y freinc.
ac ỽynteu gỽedy ỻad y benn a ym+
choelassant y|r kasteỻ. Yn|y vlỽydyn hon+
no y gỽelat seren enryfed y gỽeletyat
yn anuon paladyr o·heni yn ol y che+
fyn. ac o braffter col·ofyn y meint a
diruaỽr o·leuat idi yn darogan yr hynn
a|vei rac ỻaỽ. Kanys henri amherỽdyr*
« p 63r | p 64r » |