Rhydychen, Llsgr. Coleg yr Iesu 111 (Llyfr Coch Hergest) – tudalen 88r
Brut y Tywysogion
88r
369
neb y bu gouadỽy deruysc y·rỽg henri
urenhin ac etwart y uab. a|e kymhor+
thỽyr o|r neiỻtu. a|r ieirỻ a|r barỽneit o|r
tu araỻ. ac yn hynny y doeth hyt ym
maes leos brenhin ỻoegyr. a brenhin
yr almaen a|e deu vab. wedy ym·maruoỻ
y·gyt ar dala y Jeirỻ a|r barwneit. a|oe+
dynt yn mynnu kyfreitheu a|deuodeu
da ỻoegyr. ac eissoes y dyghetuen
a ymchoelaỽd yn|y gỽrthỽyneb. Kanys
y Jeirỻ a|r barỽneit a|delis yno y bren+
hined. a deu vab henri vrenhin. nyt am+
gen etwart ac etmwnt. a phump ar
hugein o|r barwneit pennaf a|oed y+
gyt ac ỽynt. a ỻawer o|r marchogyon
bonhedickaf onadunt. wedy ỻad mỽy
no deg|mil o wyr y brenhined. herwyd
y dywaỽt rei o|r gwyr a vu yn|y vrỽydyr
a gỽedy hynny o gyghor y geỻygaỽd
y ieirỻ vrenhin ỻoegyr gan garcharu
y|rei ereiỻ. Ẏ vlỽydyn honno y trigyaỽd
y kymry yn hedỽch y gan y|saeson.
a ỻywelyn. ab gruffud yn dywyssaỽc ar
hoỻ gymry. ac yna y bu uarỽ ỻyỽelyn
ab rys ab maelgỽn yr ỽythuet dyd
o|r ystỽyỻ. Ẏ ulỽydyn rac ỽyneb duỽ
ieu kyn gỽyl y drindaỽt y diegis et+
wart uab henri vrenhin o garchar
simỽnt mỽnford o gasteỻ henford
drỽy ystryỽ roser mortymer. a gỽedy
hynny y kynnuỻaỽd edwart dirua+
ỽr lu o ieirỻ a|barỽneit a|marchogy+
on aruaỽc. yn erbyn simỽnt mỽnford
a|e gyt·aruoỻwyr. a duỽ maỽrth nessaf
wedy aỽst y doethant y·gyt hyt ym
maes efsam. a gỽedy bot darestỽg
y vrỽydyr y·rygtunt a ỻad ỻawer o
bop tu y dygỽydaỽd Simỽnt mỽn+
ford a|e vab. a ỻuossogrỽyd o|r rei ereiỻ.
Ẏ ulỽydyn honno vis maỽrth y bu
uarỽ maredud ab owein. yn ỻan ba+
darn vaỽr. ac y cladỽyt yn ystrat
fflur. ac yna yd etholet y|pedwyryd
clemens yn bap. Ẏ vlỽydyn rac ỽyneb
y dihegis deu vab Simỽnt mỽnford
o garchar y brenhin. a gỽedy kadarn+
370
hau casteỻ Keỻi ỽrda. o wyr ac arueu ac ym+
borth. Mordỽyaỽ a|ỽnaeth y freinc y geissaỽ
nerth y gan y kereint a|e kedymdeithon.
A phan|gigleu henri urenhin hynny. kyn+
nuỻaỽ diruaỽr lu a|oruc o hoỻ loegyr y
ymlad a|r casteỻ. wedy gỽyl ieuan vedydyỽr
a|r casteỻwyr yn ỽraỽl a gynhalassant y
casteỻ hyt nos ỽyl thomas ebostol. ac yna
o|eisseu ymborth y rodassant y casteỻ. drỽy
gael ohonunt y heneideu. a|e haelodeu.
a|e harueu yn ryd. Ẏ ulỽydyn rac ỽyneb yd
ymaruoỻes ỻywelyn ab grufud. a iarỻ clar
ac yna y kyrchaỽd y iarỻ lundein a|dirua+
ỽr lu gantaỽ. a thrỽy dỽyỻ y bỽrgeisseit
y goresgynnaỽd y dref. a|phan|gigleu henri
vrenhin ac etwart y vab hynny. kynnuỻaỽ
diruaỽr lu a|orugant a|chyrchu ỻundein
ac ymlad a|hi. a thrỽy amodeu kymeỻ y
iarỻ a|r bỽrgeisseit y ymrodi udunt. a gỽedy
hynny duỽ·gỽyl galixte bab y ffuryfhaỽyt
hedỽch y·rỽg henri vrenhin a|ỻywelyn ab grufud
drỽy octo bonus legat y pab yn gymodrod+
ỽr y·rygtunt yg|kasteỻ baldwin. a thros
y kyfundeb hỽnnỽ yd|edewis ỻywelyn ab grufud.
y|r|brenhin deg|mil ar|hugeint o uorceu o
ysterligot. a|r|brenhin a|genhataaỽd idaỽ
ynteu gỽrogaeth hoỻ varỽneit kymry.
ac ymgynhal o|r barỽneit yr eidunt y·da+
naỽ ynteu byth; ac eu|galỽ yn dywyssogy+
on kymry. o hynny aỻan. ac yn|tystolya+
eth ar hynny y kynhalyaỽd y brenhin y
siartyr ef y lywelyn o gytsynnedigaeth ac y
etiuedyon yn rỽymedic o|e inseil ef. ac
inseil y dywededic legat. a hynny a|ga+
darnhawyt o aỽdurdaỽt y|pap. Yn|y vlỽ+
ydyn honno y ỻadaỽd charlas vrenhin
cisil coradin wyr ffredric amheraỽdyr a
Mab ffredric y|myỽn brỽydyr ar uaes y
pỽyl. Ẏ ulỽydyn honno y darestygaỽd sỽ+
dan babilon dinas antiochia. gỽedy ỻad
y|gỽyr a|r gỽraged a diffeithaỽ gỽlat ar+
menia ac eu dỽyn y geithiwet. Ẏ ulỽy+
dyn rac ỽyneb y bu uarỽ gronỽ ab eidny+
uet. a Joab abat ystrat flur. Y ulỽydyn
racỽyneb y mis racuyr y bu uarỽ grufud
ab Madaỽc uychan y vraỽt. ac y cladỽyt
yn ỻan egỽestyl
« p 87v | p 88v » |