LlGC Llsgr. Peniarth 7 – tudalen 13v
Peredur
13v
39
y|dwawt y vorwyn wrth beredur a vnben
eb hi pei tlaut vydut yn dyuot yma
ti a aut yn gywaethoc odyma o|drysor
y|gwr du a ledeist. A|thi a|weleist a oed
o vorynnyon tec yn|y llys ti a geffy honn
a vynnych onadunt ay|n wreic ay|n
orderch. Ny·d|ydwyf J. yma vnbennes
eb·y|peredur yg|godev gwreicca. Namyn
y gweission tec a|welais J. yn y llys. ym+
geffelybent a|r morynyon val y mynn+
wynt. Ac ni mynnaf J. odyma na da
na dim o|r a welaf. Ac odyna yd aeth
peredur hyt yn llys meibion diodeivieint
A ffan doeth y|r|llys. ef a welei yno wa*+
raged hygar da ev gwybot. A llawen vv+
ant wrth beredur ac ymdidan ac ef
Ac val y bydynt velly wynt a|welynt
march yn dyvot y|mewn a|chyfrwy ar+
naw. Ac yd|oed yn|y kyfrwy keleyn. ac
vn o|r gwraged a gyuodes y vyny ac a gy+
myrth y|geleyn ac a|y hynnienyawd y
mewn kerwyneit o dwuyr twymyn a
oed is law y drws. Ac wedy hynny a|y hir+
awd ac eli gwerth·vaur ac yna y kyuo+
des y geleyn yn gyn Jachet ac y bu jachaf
y ymdan* a ffawb. Ac yn gyuagos j hynny
y doeth dev·wr ereill. yn dwy gelyn yn
vn diwygat a|r geleyn gyntaf. a|r vn+
ryw gyweir a|oruc y|gwraged ar y dwy
geleyn hynny ac ar y gyntaf. Ac
yna y govynnavd peredur paham
yd|oed y kalaned velly. Ac y dw+
aut y gwraged y beredur
y may avang a|oed agos
udunt yno a|hwnnw
ac eu lladei bevnyd
40
Ac ar hynny y trigassant y|nos honno. A th+
rannoeth y kyuodes y maccwyueit y vy+
ny a ledessit a|mynet ymdeith. Sef yd er+
chis peredur vdunt yr mwyn ev gorderchev
y adv ef ygyda ac wynt. A|y omed a oru+
gant. Pei y|th ledit ti eb·yr wynt nyt
oed ytti a|th wnelei yn jach vyw ac ynni
y|may. Sef a oruc peredur yna mynet yn|y
hol yny divlannassant y|ganthaw. Ac
val y bydei. beredur yn kerdet yvelly ynych+
af y gweli* y wreic deccaf a|welsei erioet
yn eiste ar benn brynn. Mj a wnn heb
hi dy hynt a|th vedwl wrth beredur
mynet y|ymlad a|r avang yd|wyt a|r
avang a|th lad o|ystryw kanys euo a
wyl paub o|r a|del attav o gysgavt mayn
yssyd ar|drws yr|ogof ac ny wyl nep
euo yny darffo idaw y lad ac a llech
waew y|llad paub o|r a|del attaw. A ffei
rodut ti dy gret ymi y karut vyvi yn
vwyaf gwreicc. my a|rodwn yt maen
val y gwelut ti yr|avang ac na welei
yr auang dydi. Rodaf myn vyng|ket*
eb·y|peredur ac yr pan|i|th weleis mi
a|th gereis. A ffa le vnbennes y keissiaf
inheu dydy. Amovyn di heb·yr hitheu
amerodres yr india. Ac yna y divlan+
nawd y wreic i wrth baredur wedy rodi
y maen yn|y law. Ac yna y kerdawd
peredur racdaw yny doeth y dyffryn tec.
Ac avon a|oed yn|y dyfryn. a gororev
y dyffryn a|oed yn goet tec gwastat
gogyvywch. A gweirglavd dec amyl a|o+
ed yn|y dyffryn. Ac o|r neilltu y|r avon
yd|oed kadw o|deveit gwynnyon
Ac o|r|tv arall kadw o deveit duon.
« p 13r | p 14r » |