LlGC Llsgr. Peniarth 19 – tudalen 144r
Brut y Tywysogion
144r
621
ganmoledic dros rydit eu teyrnas
no chyt·diodef ac agkyfreitheu y
freingk. Ac yna tynnu a|wnaeth+
ant a|e marchaỽclu yn aruaỽc
tu a|lincol. a cheyr·bron y pyrth
kyweiryaỽ eu bydinoed a|e gossot
y ymlad a|r gaer. Ac yna y gogled+
wyr a|r freingk a ymwisgassant
y wrthwynebu udunt. ac esgyn+
nu y muroed. ac amdiffyn yn
wraỽl a|wnaethant. A gỽedy ym+
lad yn hir o|bop tu. ef a|diasgeỻ+
aỽd bydin y wrth y ỻu. yr honn
yd oed Jarỻ kaer loeỽ. a ffaỽrỽn
brewys yn|y harwein. a thrỽy
drỽs dieithyr ar y casteỻ y doeth+
ant y|myỽn. a chyrchu y dinas
a|wnaethant. a|gỽneuthur dir+
uaỽr aerua o|r freingk a|r gogled+
wyr. ac ỽynteu gỽedy eu haruth+
raỽ a|gymerassant eu fo. megys
ynvydyon heb vn o·honunt a ym+
gudyei yn|y ỻe kyntaf y kaffei.
Ac yna y kyrchaỽd gỽyr henri
vrenhin y pyrth. ac y torrassant
ac y doethant y|myỽn. ac ym+
lad y foodron ac eu ỻad ac|eu
daly ac eu karcharu. ac yn|y
vrỽydyr honno y delit iarỻ
kaer wynt. a Jarỻ henford a
Robert uab gỽaỻter. ac y ỻas
Jarỻ perffi. y bon·hedickaf o|r
freingk. a simỽnt dy pessi. a|hu
dy roc. a|Gilbert Jarỻ clar. a
robert de rupel. a reinald dy
622
cressi gỽnstabyl kaer ỻeon. A|ge+
ralt Jarỻ. a ỻawer o rei ereiỻ.
ac aneiryf o·nadunt a vodes
ar yr auon. Ac veỻy yd ymcho+
elaỽd gỽyr y brenhin yn ỻaw+
en vudugaỽl drỽy voli duỽ
y gỽr a|wnaeth rydit y|r bobyl.
ac yna yn ofnaỽc y peidyaỽd
lowys ac ymlad a|r casteỻ. ac
y bryssyaỽd y lundein. ac anuon
kennadeu a|wnaeth y freingk yn
ol nerth. Ac yna y kedwis gỽyr
y brenhin y porthueyd a|diruaỽr
lu ganthunt. Ac yna yd aeth y
freingk y hỽylaỽ y|moroed a
diuessur lyghes ganthunt ỽyn+
teu. ac yn ymyl aber temys y
bu ymlad ỻogeu y·rỽng y sae+
son a|r freingk. a gỽedy ỻad ỻaỽ+
er o|r freingk y syrthyaỽd y vu+
dugolyaeth y|r saesson. ac ody+
na yn hyfryt yd ymchoelassant
drachefyn wedy gỽarchae loỽys
yn ỻundein. Yng|kyfrỽng hynny
o damchwein y kymodaỽd rei+
nald y brewys a|r brenhin. A
phan weles rys Jeuangk ac
owein meibyon gruffud uab
rys. eu hewythyr yn mynet
yn erbyn yr aruoỻ a|wnatho+
ed wrth wyrda ỻoegyr a chymry.
kyuodi yn|y erbyn a|wnethant*
a goresgyn bueỻt y arnaỽ oỻ
dyeithyr y kestyỻ. Ac yna y
ỻidyaỽd heuyt llywelyn uab
« p 143v | p 144v » |