Rhydychen, Llsgr. Coleg yr Iesu 111 (Llyfr Coch Hergest) – tudalen 165v
Peredur
165v
671
a ỻawen uu y wreicda ỽrthaỽ. A|ph ̷+
an vu amser gantaunt* mynet y
vỽyta a|orugant. Gỽedy daruot
bỽyta. da oed yti vnben heb hi vy+
net y gyscu y le araỻ. Pony chaỽn
gyscu yma heb·y peredur. Naỽ gỽidon e+
neit yssyd yma o widonot kaer
loyỽ. a|e tat a|e mam gyt ac wynt.
ac nyt nes an|dianc ni erbyn y|dyd
noc udunt yn ỻad. ac neur|derỽ u+
dunt goresgyn y|kyuoeth a|e|diffei+
thaỽ o·nyt yr vn ty hỽnn. Jeu heb+
y peredur. yma y bydỽn heno. Ac os go+
fut a daỽ arnaỽch o|r gaỻaf i les
mi a|e gỽnaf. afles ny|s gỽnaf
ynneu. Ac y gyscu yd|aethant.
ac y·gyt a|r dyd peredur. a|glywei diaspat
engiryaỽl. A chyuodi yn gyflym
a|oruc peredur. o|e grys a|e laỽdyr a|e gled+
dyf am y|vynỽgyl. ac aỻan y|doeth.
sef y gỽelei gỽidon yn ymordiwes
a|gỽiỻỽr. Ac ynteu yn|diaspedeit*.
Peredur. a gyrchwys y widon. ac a|e
trewis a chledyf ar y phenn yny
ledaỽd yr helym a|e phenffestin ual
dyscyl ar y|phenn. Dy|naỽd peredur. dec
uab efraỽc a|naỽd duỽ. Paham
wrach y|gỽdost di mae peredur. ỽyf|i.
Tyghetuen a gỽeledigaeth ym o+
def gofut y gennyt. Ac y titheu
kymryt march ac arueu y gennyf
ynneu. Ac y·gyt a mi y|bydy yn dys+
cu marchogaeth a theimlaỽ dy ar+
ueu. Val hynn heb·y peredur y keffy na+
ỽd. Dy|gret na wnelych gam vyth
yg|kyuoeth y iarỻes. kedernyt ar
hynny a|gymerth peredur. a chan gany+
at y iarỻes kychỽyn ygyt a|r wid+
on y lys y gỽidonot. Ac yno y|bu
ef teir wythnos ar vntu. ac y+
na dewis y uarch a|e|arueu. a
chyỽynnu racdaỽ. a diwedyd ef
a|doeth y dyffrynn. ac yn|diben
y dyffrynn ef a|doeth y gudygyl
meudwy. a|ỻaỽen uu y meudỽy
ỽrthaỽ. ac yno y bu ef y|nos honno.
672
Trannoeth y bore ef a|gyfodes o·dyno.
A phan deuth aỻan yd oed gawat o
eiry gỽedy ry odi y nos gynt. a gỽ+
alch wyỻt wedy ỻad hỽyat yn|tal y
kudugyl. a chan dỽryf y|march kilyaỽ o|r walch a dis+
gyn a disgyn bran ar gic yr ederyn.
Sef a|oruc peredur. seuyỻ a chyffelybu du+
et y vran. a gỽynder yr eiry. a chochter
y gỽaet y waỻt y wreic uỽyaf a gar+
ei a oed kyn|duhet a|r muchud. a|e chna+
ỽt oed kyn|wynnet a|r eiry. a chochter
y gỽaet yn|yr eiry y|r deu vann gochyon
oed yn|y grudyeu. ar hynny yd oed ar+
thur a|e deulu yn keissaỽ peredur. a wdaỽch
chỽi heb·yr arthur pỽy y marchaỽc
paladyr hir. a seif yn|y nant uchot.
Arglỽyd heb vn mi a|af y wybot pa ̷
vn yỽ. Yna y|doeth y mackỽy hyt
y ỻe yd oed peredur. a gofyn idaỽ beth a|wna+
ei ef ueỻy. a phỽy oed. ac rac meint
medỽl peredur. ar y|wreic vỽyaf a|garei. ny
rodes atteb idaỽ. Sef a|oruc ynteu gos+
sot a|gỽaew ar peredur. ac ynteu peredur. a ymchoe+
laỽd ar y|mackỽy. ac a|e gỽant dros
bedrein y uarch y|r ỻaỽr. ac ol yn|ol ef
a|doeth pedwar mackỽy ar|hugeint at+
taỽ. ac nyt attebei yr vn mỽy no|e gi+
lyd. namyn yr un gỽare a|phob un. y
wan ar un gossot y|r ỻaỽr. Ynteu gei
a|deuth attaỽ ef. ac a|dywaỽt yn|disgeth+
rin anhegar ỽrth peredur. a|pheredur a|e
kymerth a|gỽaeỽ ydan y|dwyen. ac
a|e|byrywys ergyt y|ỽrthaỽ. yny|dor+
res y vreich a gỽaeỻ y ysgỽyd. a mar+
chogaeth vn weith ar|hugeint drostaỽ.
ac ual yd|oed yn|y uarỽ lewic rac me+
int y|dolur a|gaỽssei. yd ymhoelaỽd
y uarch a|thuth garw gantaỽ graỽth.
a phan|welsant y teulu y march yn
dyuot heb y|gỽr arnaỽ. y kychỽyn+
nassant ar vrys. parth a|r ỻe y bu+
assei y gyfranc. a|phan|deuthant y+
no tybygu ry lad kei. wynt a|wel+
sant hagen o|r kaffei vedic da. y bydei
vyỽ. Ny symudaỽd peredur y vedỽl mỽy
no chynt yr gỽelet y pennyal a|oed
[ am|benn kei.
« p 165r | p 166r » |