Rhydychen, Llsgr. Coleg yr Iesu 111 (Llyfr Coch Hergest) – tudalen 176v
Y gainc gyntaf
176v
715
dy|wybot. ny buost gyn hegaret gỽas
ditheu. ny bu gyn|haỽsset gennyt titheu
treulaỽ dy da. ny bu|weỻ dy dosparth eiry+
oet. no|r ulỽydyn honn. y·rof|i a|duỽ heb ynteu
ys iaỽn a|beth yỽ ychỽi diolỽch y|r gỽr a|uu
y·gyt a|chỽi. a|ỻyna y gyfranc ual y bu a|e
datkanu oỻ o bỽyỻ udunt. Je arglỽyd heb ỽy
diolỽch y duỽ kaffel ohonat y gedymdeithas
honno. a|r|arglỽydiaeth a|gaỽssam ninheu.
y vlỽydyn honno ny|s attygy y gennym ot|gỽnn.
nac attygaf y·rof|y a|duỽ heb ynteu bỽyỻ. ac o
hynny aỻan dechreu kadarnhau kedymdeithas
y·ryngtunt. ac anuon o bop un y gilyd meirch
a milgỽn a hebogeu. a|phob kyfryỽ dlỽs o|r a
debygei bop vn digrifhau medỽl y gilyd ohonaỽ.
Ac o achaỽs y drigyant ef y vlỽydyn honno
yn annỽuyn. a gỽledychu ohonaỽ yno mor
lỽydyannus a|dỽyn y|dỽy deyrnas yn vn dyd drỽy
y dewred ef a|e vilỽryaeth y|diffygywys y enỽ
ef ar pỽyỻ penndeuic dyuet. ac|y gelwit pỽyll
penn annỽuyn o|hynny aỻan. a threigylgỽeith
yd|oed yn arberth prif lys idaỽ a gỽled darpa+
redic idaỽ ac y·niueroed maỽr o wyr ygyt ac ef.
A|gỽedy y bỽyta kyntaf kyuodi y orymdeith
a|oruc pỽyỻ. a|chyrchu penn gorsed a|oed uch
laỽ y ỻys a|elwit gorsed arberth. arglỽyd heb
un o|r ỻys kynnedyf yr orsed yỽ. pa dylyedaỽc
bynnac a|eistedo arnei nat a odyno heb vn
o|r deupeth. ae kymriỽ ae archoỻeu. neu yn+
teu a|welei ryuedaỽt. Nyt oes arnaf|i ovyn
kael kymriỽ neu archoỻeu ymplith hynn
o niuer. Ryuedaỽt hagen da oed gennyf pei
as|gỽelỽn. Mi a|af y|r orsed y eisted. Eisted a|w+
naeth ar yr orsed. ac ual y bydant yn eisted ỽynt
a|welynt gỽreic ar uarch canwelỽ maỽr aru+
chel. a gỽisc eureit lathreit ymdanei yn|dyuot
ar hyt y brifford a gerdei o|r orsed. Kerdet araf
gỽastat oed gan y|march ar uryt y neb a|e gỽelei.
Ac yn|dyuot yn ogyfuuch a|r orsed. Ha wyr
heb·y pỽyỻ a|oes ohonaỽch chỽi a|adnapo y
uarchoges racco. Nac oes arglỽyd heb ỽynt.
aet vn heb ynteu yn|y herbyn. y wybot pỽy
yỽ. vn a|gyuodes yn|vud*. a|phan|doeth yn|y|her+
byn y|r|fford. neut athoed hi heibaỽ. Y hymlit
a|wnaeth ual y gaỻei gyntaf o pedestric. A|phei
vwyhaf vei y vrys ef. peỻaf vydei hitheu y
716
ỽrthaỽ ef. A phan|welas na|thygyei idaỽ y hym+
lit. ymchoelut a|oruc att pwyll a|dywedut ỽrth+
aỽ. arglỽyd heb ef ny thyckya y pedestyr yn|y
byt y hymlit hi. Je heb ynteu pỽyll dos dos*
y|r ỻys a|chymer y march kyntaf a|welych a
dos ragot yn|y hol. Y march a|gymerth ac
racdaỽ yd|aeth. Y maestir gỽastat a gauas.
ac ef a|dangosses yr ysparduneu y|r march.
A phei vỽyhaf y ỻadei ef y|march. peỻaf vydei
hitheu y ỽrthaỽ ef. Yr vn gerdet a|dechreuas+
sei hitheu yd oed arnaỽ. Y varch ef a|baỻwys.
A phan wybu ef ar y varch paỻu y pedestric.
ymchoelut hyt y ỻe yd oed pỽyỻ a|wnaeth.
arglỽyd heb ef ny thyckya y neb ymlit yr
unbennes racko. Ny wydỽn i varch gynt
yn|y kyuoeth no hỽnn. ac ny thygyei ymi
y hymlit hi. Je heb·y pỽyll y mae yno ryỽ
ystyr hut. aỽn parth a|r ỻys. Y|r llys y doeth+
ant. a|threulaỽ y|dyd hỽnnỽ a|wnaethant.
A thrannoeth kyuodi y uynyd a|wnaethant
a|threulaỽ hỽnnỽ yny oed amser mynet y
vỽyta. A gỽedy y bỽyta kyntaf. Je heb yn+
teu bỽyỻ ni aỽn yr vn niuer y|buam doe y
penn yr orsed. a thydi heb ef ỽrth vn o|e
uackỽyeit. dỽc gennyt y march kyntaf a
wypych yn|y maes. a|hynny a|wnaeth y
mackỽy. Yr orsed a|gyrchassant a|r march
gantunt. Ac ual y|bydynt yn eisted wynt
a|welynt y wreic ar yr un march. a|r vn
wisc ymdanei yn|dyuot yr vn fford. ỻyma heb+
y pỽyỻ y uarchoges doe. Byd baraỽt was
heb ef y wybot pỽy yỽ hi. arglỽyd heb ˄ef mi a|w+
naf hynny yn ỻawen. ar|hynny y uarchoges
a|doeth gyuerbyn ac ỽynt. Sef a|oruc y mac+
kỽy yna ysgynnu ar y march. a|chynn|daruot
idaỽ ymgyweiryaỽ yn|y gyfrỽy. neur ry adoed
hi heibyaỽ. a|chynnỽỻ y·ryngtunt. Amgen
vrys gerdet nyt oed genthi hi no|r dyd gynt.
Ynteu a gymerth rygig y gan y uarch. ac
ef a|debygei yr arauet y kerdei y uarch. yr ym+
ordiwedei a|hi. a|hynny ny thygyei idaỽ.
Eỻỽng y uarch a|oruc ỽrth avỽyneu. nyt oed
ef nes idi yna no chyn bei ar y gam. A|phei
vỽyhaf y lladei ef y varch. peỻaf vydei hitheu
y ỽrthaỽ ef. Y cherdet hitheu nyt oed uỽy no
chynt. Kany welas ef tygyaỽ idaỽ y hymlit.
« p 176r | p 177r » |