Rhydychen, Llsgr. Coleg yr Iesu 111 (Llyfr Coch Hergest) – tudalen 179v
Y gainc gyntaf, Yr ail gainc
179v
726
heb·y pỽyll. Kymryt enỽ y mab y ỽrth y geir
a|dywaỽt y uam pan gauas ỻaỽenchwedyl y
ỽrthaỽ. ac ar hynny y trigywyt. Teirnon
heb·y pỽyỻ duỽ a|dalo it ueithryn y mab hỽnn
hyt yr aỽr honn. a iaỽn yỽ idaỽ ynteu o|r byd
gỽr mỽyn y|dalu itti. arglỽyd heb y teirnon
y wreic a|e magỽys ef nyt oes yn|y|byt dyn
vỽy y galar no hi yn|y ol. Jaỽn yỽ idaỽ coffau
ymi ac y|r|wreic honno a|wnaethom yrdaỽ.
Y·rof|i a duỽ heb·y pỽyỻ tra|barhawyf|i mi a|th gyn+
halyaf a|thi a|th gyuoeth. tra aỻỽyf kynnal y
meu vy hun. Os ynteu a|vyd iaỽnach yỽ idaỽ dy
gynnal noc y mi. Ac os kyghor gennyt ti hynny
a chan hynn o|wyrda. canys megeist ti evo hyt
yr aỽr honn. ni a|e rodỽn ar uaeth att benndaran
dyuet o|hynn aỻan. a bydỽch gedymdeithon
chwitheu a|thatmaetheu idaỽ. Kyngor iaỽn
heb·y paỽb yỽ hỽnnỽ. Ac yna y rodet y mab y
penndaran dyuet ac yd ymyrrỽys gỽyrda y wlat
ygyt ac ef. ac y kychwynnỽy* teirnon toryf vli+
ant a|e gedymdeithon y·ryngtaỽ a|e wlat ac a|e
gyuoeth gan garyat a|ỻewedynyd. ac nyt
aeth heb gynnic idaỽ y tlysseu teccaf a|r meirch
goreu a|r cỽn hoffaf. ac ny mynnwys ef dim.
Yno y trigyassant ỽynteu ar eu|kyuoeth. ac y
magỽyt pryderi uab pỽyỻ penn annỽn yn amgel+
edus ual yd|oed dylyet yny oed delediwaf gỽas a|thec+
kaf a|chỽplaf o bop camp da oc a|oed yn|y deyrnas.
Velly y treulassant blỽydyn a|blỽydyned yny do+
eth teruyn ar hoedyl pỽyỻ penn annỽn ac y bu uarỽ.
ac y gỽledychỽys ynteu pryderi seith cantref
dyuet yn llỽydyannus garedic gan y gyuoeth
a chan paỽb yn|y gylch. ac yn ol hynny y kynnyd+
ỽys tri|chantref ystrat tywi. a|phedwar cantref
keredigyaỽn. ac y gelỽir y rei hynny seith gan+
tref seissyỻỽch. Ac ar y kynnyd hỽnnỽ y bu ef
pryderi uab pỽyỻ penn annỽn yny doeth yn|y
vryt wreicka. Sef gỽreic a|vynnaỽd kicua
verch wynn gohoyỽ uab gloyỽ waỻt lydan. uab
casnar wledic o dylyedogyon yr ynys honn.
Ac ueỻy y teruyna y geing honn o|r mabynnogy+
*llyma yr eil geinc o|r mabinogi [ on.
B Endigeit˄vran vab ỻyr a oed vrenhin
coronaỽc ar yr ynys honn. ac arderchaỽc
o goron lundein. A|phrynhaỽngỽeith yd oed yn
hardlech yn ardudỽy yn ỻys idaỽ. ac yn eisted yd
727
oedynt ar garrec hardlech uch penn y weilgi.
a manaỽydan uab ỻyr y vraỽt ygyt ac ef. a deu
vroder un uam ac ef. nissyen ac efnissyen. a|gỽ+
yrda y am hynny ual y gỽedei ygkylch brenhin.
Y deu uroder vn uam ac ef meibon oedynt y
eurossỽyd o|e uam ynteu penardun uerch ueli
uab mynogan. a|r neiỻ o|r gỽeisson hynny gỽas
da oed. ef a barei dangneued y·rỽng y|deulu
pan vydynt lidyaỽckaf. sef oed hỽnnỽ nissyen.
Y ỻaỻ a barei ymlad rỽng y|deu uroder pan|uei
uỽyhaf yd|ymgerynt. ac ual yd oedynt yn eisted
ueỻy ỽynt a|welynt teir ỻong ar|dec yn|dyuot o
deheu iwerdon. ac yn kyrchu parth ac attunt. a
cherdet rugyl ebrỽyd gantunt. Y gỽynt yn eu
hol ac yn eu nessau yn ebrỽyd attunt. Mi a|welaf
longeu racco heb y brenhin ac yn dyuot yn ebrỽyd
parth a|r tir. ac erchỽch y wyr y llys wiscaỽ ymda+
nunt. a|mynet y edrych pa uedỽl yỽ yr eidunt.
Y gỽyr a|wiscỽys ymdanunt. ac a|nessayssant
attunt y waeret. gỽedy gỽelet y ỻongeu o agos
diheu oed gantunt na|welsynt llongeu gywei+
ryach y hansaỽd noc ỽynt. arwydon tec gỽedus
o bali a|oed arnunt. Ac ar hynny nachaf un
o|r ỻongeu yn raculaenu rac y rei ereiỻ. ac y
gỽelynt dyrchauael taryan yn vch no bỽrd y
ỻong. a|sỽch y daryan y uynyd yn arỽyd
tangneued. ac y nessawys y gỽyr attunt
ual yd ymglywynt ymdidan. Bỽrỽ badeu
aỻan a|wnaethant ỽynteu a|nessav parth a|r
tir. a chyfarch gỽeỻ y|r brenhin. Y brenhin
a|e clywei wynteu o|r ỻe yd|oed ar garrec uchel
uch eu penn. Duỽ a|rodho da yỽch heb ef a
graessaỽ ỽrthyỽch. Pieu y niuer ỻongeu
hynn. a phỽy yssyd bennaf arnunt ỽy. arglỽ+
yd heb ỽynt y mae yma matholỽch brenhin
Jwerdon. ac ef bieu y ỻongeu. Beth heb
y brenhin a uynnei ef. a vynn ef. dyuot y|r|tir.
Na vynn arglỽyd heb ỽynt negessaỽl yỽ ỽrth+
yt ti onyt y neges a|geiff. Py ryỽ neges yỽ yr|eidaỽ ef
heb y brenhin. Mynnu ymgyfathrachu a|thy+
di arglỽyd heb ỽynt. Y erchi branwen uerch
lyr y doeth ef. Ac os da gennyt ti ef a|uynn ym+
rỽymaỽ ynys y kedyrn ac iwerdon ygyt ual y
bydynt gadarnach. Je heb ynteu doet y|r tir.
a chynghor a|gymerỽn ninheu am|hynny.
Yr atteb hỽnnỽ a aeth attaỽ ef. Minneu a af yn
The text Yr ail gainc starts on Column 726 line 42.
« p 179r | p 180r » |