Rhydychen, Llsgr. Coleg yr Iesu 111 (Llyfr Coch Hergest) – tudalen 193r
Geraint
193r
780
ac arthur a ymgauas ac ef. a chynn kyf+
lauanu o neb arnaỽ. neur daroed y arthur
lad y benn. ac yna kanu corn ỻad a|wnaeth+
pỽyt. Ac yna dyuot a|orugant paỽp y·gyt.
a|dyuot a|oruc kadyrieith att arthur a|dyỽedut
ỽrthaỽ. arglỽyd heb ef y mae racco wenhỽy+
var heb neb gyt a|hi namyn un uorỽyn. arch
ditheu heb·yr arthur y gildas uab kaỽ ac
y yscolheigon y ỻys oỻ kerdet gyt a|gỽenhỽy+
uar parth a|r ỻys. a hynny a|wnaethant ỽ+
ynteu. ac yna y kerdỽys paỽb o·nadunt a
dala ar ymdidan a|orugant am benn y carỽ
y bỽy y rodit. vn yn mynnu y rodi y|r wreic
vỽyhaf a|garei ef. araỻ y|r wreic vỽyhaf a
garei ynteu. a phaỽb o|r teulu a|r marchogy+
on yn amrysson yn chỽerỽ am y penn. ac
ar|hynny y|doethant y|r ỻys. ac ygyt ac y
kicleu arthur a|gỽenhỽyuar yr amrysson
am y penn. y dywaỽt gỽenhỽyuar yna ỽrth
arthur. Arglỽyd heb hi. ỻyma vyg|kyghor
i am benn y carỽ. na rodher yny del gereint
uab erbin o|r neges yd edyỽ idi. a|dywedut y
arthur ystyr y|neges a|oruc gỽenhỽyuar.
Gỽneler hynny yn|ỻaỽen heb·yr arthur.
ar hynny y trigyỽyt. a thrannoeth y peris
gỽenhỽyuar. bot disgỽyleit ar y|gaer am
dyuotyat gereint. a gỽedy hanner dyd y
gỽelynt godrumyd o|dyn bychan ar uarch.
ac yn|y ol ynteu gỽreic neu uorỽyn debygynt
hỽy ar uarch. ac yn|y|hol hitheu marchaỽc
maỽr gochrỽm penn·issel goathrist. ac ar+
ueu briỽedic amdlaỽt ymdanaỽ. A chynn
eu|dyuot ygkyuyl y porth y doeth un o|r dis+
gỽyleit hyt ỻe yd|oed wenhỽyuar. a|dywe+
dut idi y ryỽ dynyon a|welynt a|r ryỽ ansa+
ỽd oed arnunt. Ny ỽnn i pỽy ynt hỽy heb
ef. Mi a|e|gỽnn heb·y gỽenhỽyuar ỻyna y
marchaỽc yd|aeth gereint yn|y|ol. a|thebic
yỽ gennyf nat gan y uod y mae yn|dyuot.
ac ymordiwedaỽd gereint ac. neur dialaỽd
sarhaet y uorỽyn pan uo ỻeihaf. ac ar|hynny
nachaf y porthaỽr yn|dyuot hyt ỻe yd oed
wenhỽyuar. Arglỽydes heb ef y mae yn|y
porth marchaỽc. ac ny|welas dyn eiryoet
golỽc mor athrugar edrych arnaỽ ac ef.
Arueu briỽedic amdlaỽt yssyd ymdanaỽ.
781
a|ỻiỽ y waet arnunt yn|drech noc eu ỻiỽ e hun.
a ỽdost di pỽy yỽ ef heb hi. gỽnn heb ynteu.
Edyrn uab nud yỽ med ef. nyt atwen inheu
ef. ac yna y doeth gỽenhỽyuar y|r porth yn|y
erbyn. ac y myỽn y doeth. ac y bu dost gan
wenhỽyuar gỽelet yr olỽc a|welei arnaỽ. pei
na attei gyt ac ef y corr yn|gyndrỽc y wybot ac
yd|oed. ar hynny kyuarch a|oruc edyrn y wen+
hỽyuar. Duỽ a|rodo da itt heb·yr hitheu. argl+
ỽydes heb ef dy annerch y gan ereint uab
erbin y gỽas goreu a|dewraf. a ymwelas ef
a|thi heb hi. do heb ef ac nyt yr|ỻes ymi. ac nyt
arnaỽ ef yd|oed hynny namyn arnaf|i arglỽydes.
A|th annerch y gan ereint. a chan dy annerch.
ef a|m|kymheỻaỽd i hyt yma. y wneuthur dy
ewyỻys di am|godyant dy uorỽyn y gan y
corr. Ynteu madeuedic yỽ gantaỽ y|godyant
ef. am|a|oruc arnaf|i. kann tebygei vy|mot
yn|en·beitrỽyd am vy|eneit. a|chymheỻyat
cadarndrut gỽraỽl milỽryeid a|oruc ef ar+
naf i hyt yma. y wneuthur iaỽn itti arglỽ+
ydes. Oi a|ỽr pa le yd ymordiwedaỽd ef a|thi.
Yn|y ỻe yd|oedem yn chỽare ac yn amrysson am
lamhystaen. yn|y dref a|elwir yr aỽrhonn
kaerdyff. ac nyt oed gyt ac ef o|niuer. nam+
myn tri dyn godlaỽt atueiledic eu|hansa+
ỽd. Nyt amgen gỽr gỽynỻỽyt gohen. a|gỽ+
reic oetaỽc. a morỽyn ieuanc delediỽ. a
hen diỻat atueiledic ymdanunt. ac ardelỽ
caru y uorỽyn o ereint yd ymyrraỽd yn|y
tỽrneimeint am y ỻamhystaen. a|dywedut
bot yn|weỻ y|dylyei y uorỽyn honno y ỻam+
hystaen. no|r uorỽyn yma a|oed gyt a|miui.
ac am|hynny ymwan a|orugant. ac ual y
gỽely di arglỽydes y gedewis ef vivi. a ỽr
heb hi pa bryt y tebygy di dyuot gereint
yma. auory arglỽydes y tebygaf i A dyuot
ef a|r uorỽyn. Ac yna y doeth arthur attaỽ
a|chyuarch gỽeỻ a|oruc ef y arthur. ac edrych
hirhynt a|oruc arthur arnaỽ. a|bot yn ar+
uthyr gantaỽ y welet ueỻy. ac ual tybyeit
y adnabot. a gouyn idaỽ. ae edern uab nud
ỽyt ti. Mi arglỽyd heb ynteu gỽedy ry gy+
hurd a|mi diruaỽr ouut a gỽelioed annodef+
edic a menegi cỽbyl o|e angherdet y arthur.
Je heb·yr arth. Jaỽn yỽ y|wenhyuar uot
« p 192v | p 193v » |