Rhydychen, Llsgr. Coleg yr Iesu 111 (Llyfr Coch Hergest) – tudalen 195r
Geraint
195r
788
caỻon y wyrda a|e hela a|e digrifỽch. a challon
cỽbyl o niuer y lys. ac yny oed ymodỽrd a|go+
gan arnaỽ gan laỽ|gan dylỽyth y llys. am y
uot yn ymgoỻi yn|gyn|lỽyret a hynny ac eu
kedymdeithas ỽy o garyat gỽreic. a|r geir+
eu hynny a|aeth hyt att erbin. A|gỽedy clybot
o erbin hẏnnẏ. Dywedut a|oruc ynteu hyn+
ny y enit. a gouyn a|oruc idi ae hihi oed yn
peri hynny y ereint. ac yn|dodi y·danaỽ ym+
adaỽ a|e lỽyth ac a|e|niuer. Na vi myn vyg
kyffes y|duỽ heb hi. ac nyt oes dim gassach
gennyf|i no hynny. ac ny wydyat hi beth
a|ỽnaei. kanyt oed haỽd genthi adef hynny
y ereint. Nyt oed haỽs genthi hitheu wa+
randaỽ ar a|glywei heb rybudyaỽ gereint
ymdanaỽ. a|goueileint maỽr a|dellis hi
yndi am hynny. a boregỽeith yr haf yd|oed+
ynt yn eu gỽely ac ynteu ỽrth yr erchỽyn.
ac enit oed heb gyscu y myỽn ystauell wy+
drin. a|r heul yn tywynnu ar y gỽely. a|r di+
ỻat gỽedy ry lithraỽ y ar y|dỽy·uron ef a|e
dỽy ureich. ac ynteu yn kyscu. Sef a|oruc
hitheu edrych. tecket ac aruthret yr olỽc a|ỽ+
elei arnaỽ. a|dywedut. Gwae ui heb hi os o|m
achaỽs i y mae y breicheu hynn a|r dỽy·uronn
yn koỻi clot a milỽryaeth kymeint ac a|oed
eidunt. a|chan hynny eỻỽng y dagreu yn
hidleit. yny|dygỽydassant ar y dỽy·uronn ef.
Ac un o|r petheu a|e deffroes ef uu hynny y+
gyt a|r ymadraỽd a|dywaỽt hi kyn|no hynny.
a medỽl arall a|e kyffroes ynteu nat yr med+
ỽl ymdanaỽ ef y|dywedassei hi hynny. nam+
yn yr ystyryaỽ karyat ar ỽr araỻ drostaỽ ef.
a|damunaỽ yscaualỽch hebdaỽ ef. ac ar hyn+
ny sef a|oruc gereint antangneuedu yn|y ued+
ỽl. a galỽ ar ysqỽier idaỽ. a dyuot hỽnnỽ
attaỽ. Par yn|gyflym heb ynteu kyweiryaỽ
uy march a|m arueu. ac eu|bot yn|baraỽt.
a|chyuot titheu heb ef ỽrth enit a gỽisc ym+
danat. a|phar gyweiraỽ dy uarch. a|dỽc y wisc
waethaf ar dy helỽ gennyt ỽrth uarchogaeth.
a meuyl ymi heb ef o|r deuy di yma yny wy+
pych di a|goỻeis i vy nerthoed yn ky gỽplet ac
y|dywedy di. ac ygyt a|hynny o|r byd kyn ys+
gaualhet itt ac yd oed dy damunet y geissaỽ
ysgaualỽch am y|neb y|medylyut ymdanaỽ.
789
a chyuodi a|oruc hitheu a gỽiscaỽ yscaelus ̷+
wisc ymdanei. Ny ỽnn i heb hi dim o|th uedy+
lyeu di arglỽyd. Ny|s|gỽybydy di yr awrhonn
heb ef. Ac yna yd aeth gereint y ymwelet
ac erbin. a|ỽrda heb ef neges yd wyf yn my+
net idi. ac nyt hyspys gennyf i pa|bryt y
deuaf dracheuyn. a|synnya di heb ef ỽrda ỽrth
dy gyuoeth yny delwyf|i dracheuyn. Mi a|wnaf
heb ef. ac eres yỽ gennyf mor deissyuyt yd
ỽyt yn mynet. a|phỽy a gerda gyt a|thi ỽrth
nat ỽyt ỽr|di y gerdet tir ỻoegyr yn unic.
Ny daỽ gyt a|miui namyn un dyn arall.
Duỽ a|th gyghoro nu mab heb·yr erbin. a
ỻaỽer dyn a|e haỽl arnat yn ỻoegyr. ac y|r lle
yd oed y uarch y doeth gereint. Ac yd oed y uarch
yn gyweir o arueu trỽm estronaỽl gloyỽ.
Ac erchi a|oruc ynteu y enit ysgynnu ar y
march a|cherdet o|r blaen. a chymryt ragor
maỽr. ac yr a|welych nac yr a|glywych heb ef
arnaf i. nac ymchoel|di dracheuyn. ac ony
dywedaf|i ỽrthyt ti na dywet ti vn geir heuyt.
A|cherdet racdunt a|orugant. ac nyt y|fford
digrifaf a|chyuanhedaf a beris ef y cherdet.
namyn y fford diffeithaf a diheuaf uot ỻat+
ron yndi. a|herỽyr a bỽystuileit gỽennỽynic.
a|dyuot y|r brifford a|e chanlyn a|orugant a
choet maỽr a|welynt y ỽrthunt. a ffarth a|r
coet y deuthant. Ac yn dyuot o|r|koet aỻan
y gỽelynt pedwar marchaỽc aruaỽc. ac e+
drych a|orugant arnunt. a|dywedut a|oruc
un o·honunt. ỻyma le da ynni heb ef y gym+
ryt y deu uarch racko a|r arueu a|r wreic he+
uyt. a|hynny a|gaffỽn yn|segur yr yr vn
marchaỽc pendrỽm go·athrist racco llibin.
a|r ymdidan hỽnnỽ a|gigleu enit. ac ny wyd+
yat hitheu beth a|ỽnaei rac ouyn gereint ae
dywedut hynny ae tewi. Dial duỽ arnaf
heb hi onyt dewissach gennyf vy agheu o|e
laỽ ef noc o|laỽ neb. a chyt ymlado a mi. mi
a|e|dywedaf idaỽ rac gỽelet angheu arnaỽ ef
yn|dybryt. a|chyuaros gereint a|oruc yny
uyd yn agos idi. arglỽyd heb hi a|glywy
di geireu y gỽyr ymdanat. Dyrchauel
y wyneb a|oruc ynteu ac edrych arnei yn|ỻidi+
aỽc. Nyt oes reit ytti heb ef namyn cadỽ
y geir. a|archyssit itt. sef oed hỽnnỽ tewi.
« p 194v | p 195v » |