Rhydychen, Llsgr. Coleg yr Iesu 111 (Llyfr Coch Hergest) – tudalen 198r
Geraint
198r
800
gỽiffert petit ar enit yn lle yd oed. A thost
uu gantaỽ welet lluossogrỽyd o ouut. ar dyn
kyn uonedigeidet a|hi. a|dywedut yna a|o+
ruc ỽrth ereint. Arglỽyd heb ef cam a|wney
na|chymery ardymhereu ac esmỽythder. ac
o chyueruyd caledi a|thi yn|yr ansaỽd hon+
no ny byd haỽd itt y oruot. Ny mynnaỽd
gereint namyn kerdet racdaỽ. ac esgynnv
ar y varch yn greulyt an esmỽyt*. a|r uorw+
yn a gynhelis y ragor. ac ỽynt a|gerdassant
parth a|choet a|welynt y ỽrthunt. a|r tes
oed yn uaỽr a|r arueu drỽy chỽys a|r gỽaet
yn glynu ỽrth y gnaỽt. A|gỽedy eu dyuot
y|r coet. seuyỻ a|oruc ydan brenn y ochel y
tes. a|dyuot cof idaỽ y dolur yna yn vỽy
no phan y kaỽssei. a seuyỻ a|oruc y uorỽyn
ydan brenn araỻ. ac ar hynny ỽynt a glyỽ+
ynt kyrn a|dygyuor. Sef ystyr oed hynny.
arthur a|e niuer oed yn|disgynnu yn|y coet.
Sef a|oruc ynteu medylyaỽ pa fford yd aei
y eu|gochel ỽynt. ac ar hynny nachaf bedes+
tyr yn|y|arganuot. Sef yd|oed yno gỽas y|r
distein. a dyuot a|oruc att y distein. a|dywe+
dut idaỽ welet y kyfryỽ ỽr ac a|welsei yn|y
coet. Sef a|oruc y distein yna peri kyfrỽy+
aỽ y uarch. a|chymryt y waeỽ a|e daryan a|dy+
uot hyt ỻe yd|oed ereint. a varchaỽc heb ef
beth a|wney di yna. Seuyỻ dan brenn gooer
a|gochel y bryt a|r tes. Pa gerdet yssyd arnat
ti a|phỽy ỽyt ti. Edrych damwheineu a cher+
det y fford y mynnỽyf. Je heb·y kei dyret
ti gyt a|miui y ymwelet ac arthur yssyd
yma yn agos. Nac af y·rof a|duỽ heb yntev
ereint. Ef a|uyd reit itt dyuot heb·y kei. a
gereint a atwaenat gei. ac nyt atwaenat
gei ereint. a|gossot a|oruc kei arnaỽ ual y
gaỻaỽd ef oreu. a blynghau a|oruc gereint.
ac ac arỻost y waeỽ y wan yny uyd yn ol y
benn y|r ỻaỽr. ac ny mynnaỽd gỽneuthur
idaỽ waeth no hynny. ac yn|wyỻt ofnaỽc
y|kyuodes kei. ac ysgynnu ar y uarch a|dy+
uot y letty. Ac odyno mynet a|oruc y orym+
deith hyt ym|pebyỻ gỽalchmei. a ỽr heb
ef ỽrth walchmei. mi a|giglef gan vn o|r
gỽeisson gỽelet yn|y coet uchot marchaỽc
briỽedic. ac arueu amdlaỽt ymdanaỽ. ac o|r
801
gỽney iaỽn ti a|ey y edrych ae gỽir hynny.
Ny|m taỽr i vynet heb·y gỽalchmei. kymer
dy uarch nu heb·y kei a pheth o|th arueu.
mi a giglef nat diỽrthgloch ef ỽrth y neb
a|del attaỽ. Gỽalchmei a gymerth y waeỽ
a|e daryan. ac a esgynnaỽd ar y uarch. ac
a|doeth hyt ỻe yd|oed ereint. a uarchaỽc heb
ef pa ryỽ gerdet yssyd arnat ti. Kerdet ỽrth
vy negesseu. ac y|edrych damwheineu y|byt.
a dywedy di y mi pỽy ỽyt. neu a|deuy y ym+
welet ac arthur yssyd yn agos yma. Nyt
ymgystlynaf|i ỽrthyt ti. ac nyt af y ymwe+
let ac arthur heb ef. ac euo a atwaenat wal+
chmei. ac nyt atwaenat walchmei ef. Ny
chlywir arnaf vyth heb·y gỽalchmei dy
adu y ỽrthyf. yny wypỽyf pỽy vych a|e gyr+
chu a|gỽaeỽ a|gossot yn|y daryan yny vyd
y paladyr yn yssic·vriỽ. a|r meirch daldal.
Ac yna edrych arnaỽ yn graff a|oruc gỽalchmei
a|e adnabot. Och ereint heb ef ae tidi yssyd yma.
Nac wyf ereint i heb ef. Gereint y·rof a|duỽ
heb ynteu. a cherdet agkyghorus truan yỽ
hỽnn. ac edrych yn|y gylch a|oruc. ac argan+
uot enit. a|e graessaỽu a|bot yn llawen ỽrthi.
Gereint heb·y gỽalchmei dyret y ymwelet
ac arthur dy arglỽyd yỽ a|th geuynderỽ.
Nac af heb ynteu. nyt yttỽyf|i yn ansaỽd
y gaỻỽyf ymweledt a neb. ac ar|hynny
nachaf un o|r mackỽyeit yn dyuot yn|ol gỽ+
alchmei y chwedleua. Sef a|oruc gỽalchmei
gyrru hỽnnỽ y uenegi y arthur uot ge+
reint yno yn vriwedic. ac na|deuei|ef y
ymwelet ac arthur. ac yd oed druan edrych
ar yr ansaỽd yssyd arnaỽ. a|hynny heb ỽy+
bot y ereint ac yn hustyng y·ryngtaỽ
a|r mackỽy. ac arch y arthur heb ef nessau
y bebyll ar y fford. kany daỽ ef y ymwelet o|e
uod ac ef. ac nat haỽd y|diriaỽ ynteu yn|yr
agỽed y mae. a|r mackỽy a|doeth att arthur
ac a|dywaỽt idaỽ hynny. ac ynteu a|sym+
udaỽd y bebyỻ ar ymyl y fford. A ỻaỽen+
hau a|oruc medỽl y uorỽyn yna. a chynn+
hỽ·yỻaỽ gereint a|oruc gỽal˄chmei. ar|hyt
y fford y|r ỻe yd oed arthur yn pebyỻaỽ. a|e
uackỽyeit yn tynnu pebyỻ yn ystlys y
fford. arglỽyd heb·y gereint hennpych gỽ+
[ eỻ.
« p 197v | p 198v » |