Rhydychen, Llsgr. Coleg yr Iesu 111 (Llyfr Coch Hergest) – tudalen 246r
Delw'r Byd
246r
988
y gorỻewin. Yn honno y maent chwech bren+
hinyaeth. Terraconia. Cartago. Gaỻicia.
Botica. Tingỽirinia. Gyuerbyn a|r yspaen
parth a|r gorỻewin yn|y mor y mae yr ynyssed
hynn. Ynys prydein. Jwerdon. Gỽeryt y tir hỽn+
nỽ y ba wlat bynnac yd|arweder a|lad y pryuet
gỽennỽynic. Yn|y|ỻe y mae solsticỽm yr heul
y mae ynyssed orchades. Nyt amgen no dec
ar|hugeint. Yn yscotlont y mae tyle gwyd nyt
a byth eu deil y arnu. Yno y byd chwe|mis haf
a chwech gayaf. a|r chỽe|mis haf dyd yn was+
tat heb dim nos. a|r whech gaeaf. nos yn was+
tat heb dim dyd. Y tu hỽnt y hynny parth a|r
gorỻewin y mae y mor rewedic. ac oeruel tra+
gywyd. Europam a gerdassam aỽn weithon
Y R affric a|dechreu yn|dỽyre +[ y|r affric.
in indus auon. a thrỽy y deheu a|tynn
hyt parth a|r gorỻewin. Kyntaf gỽlat
ohonei yỽ libia. honn a|gerda o dinas ceroce+
mus. a mynyde cathalamus. ac ym mor silen
y teruyna. ac o|hỽnnỽ y dywedir mor libicỽm.
Odyna sẏrenaica a gauas y henỽ. y gan sẏ+
ren urenhin. Yno pontapolis y gan e|pym dinas
yssyd y|enỽ berenice. a·sẏone. tolomaide. apol+
inea. cẏrene. ac a|gaỽssant eu henỽeu y gan
eu|hadeilwyr. Odyna y mae tripolis o|r tri di+
nas y cauas y henỽ. Nyt amgen. occasa.
berete. a leptis vaỽr. Odyna y|mae.
y gan y deu dinas y enỽ. Odyna adromeus.
yn y ỻe y mae cartago vaỽr a|distrywys gỽyr
ruuein. A|gỽedy y|hat·wneuthur y gelwit car+
tago. Tewet y mur uu deu gyfut ar|bymthec.
Odyna y mae getulia. odyna minidia. Ody+
na dinas yponensis. yn|y ỻe y bu aỽstin yn
escop. odyna maỽricia. Odyna stipensis gỽ+
lat. Odyna cesariensis. Odyna yn|y deheu
y mae ethiopia. ac yn|y dỽyrein y mae ethio+
pia araỻ. yn|y ỻe y mae kaer sabba. araỻ
yssyd yn|y gorỻewin. yno y mae pobyl troex+
dite yssyd uuanach no|r aniueileit. O|r tu
hỽnt y|ethiopia y mae ỻeoed maỽr diffeith.
989
rac tragỽres yr heul. Odyna y mae y mor.
mỽyhaf yssyd yn berwi yn wastat ual caỻ+
aỽr o wres yr heul. Yn|yr ranneu eithaf o|r
affric. parth a|r gorỻewin y mae dinas gades
a|adeilỽys y phenites. Odyna y dywedir
mor gadican. athlas oed enỽ gỽreic brenhin
yr affric. Yno y mae promethei y gan y|rei
y|kymerth y mynyded y henỽ. Yno y|kaffat
astrologia. o honno y dewir hyt ar y|nef.
Kann kerdassam ranneu yr affric. myna+
gỽn weithon yr ynyssed. Yn·yssoed a dywedir
oc eu|bot yn ansodedic yn|y mor. Y mor groec
y mae cẏprẏs. Kyuerbyn a|sithia y mae
creta. honno a|ennỽir centapolis. Honno
yssyd gyuerbyn a mor libicum. amdos ynys
ac heỻes·ponto yn europa. Eudos ynys. ac
a|elwir ciclades. Pedeir ynys ar|dec ar|huge+
int yssyd wyneb yn|wyneb. vn yỽ rodos y
tu a|r|dỽyrein. Odyna|tenedos ynys y tu
a|gogled y dỽyrein. odyna carathos ar dehev
hynny gy·uerbyn a|r eifft. Odyna ynys
tẏthera. y|tu a|r gorỻewin hỽnnỽ. Odyna
denos ynys ym|perued ciclade. Honno a|elwir
heuyt ortigia. Odyna ẏcaria ynys. ac o
honno y dywedir mor ẏ·kareỽm. Odyna y
mae naiỽn ynys seint daniel. odyna ynys
varon. yno y byd y marmor gỽynnaf. a
maen sardinus. Odyna sẏdon ynys. odyna
ynys samos. odyna y hanoed pitagoras.
a siliỻa. Yno gyntaf y|kaffat kywreinrỽyd
y ỻestri dineu. Odyna y mae ynys ciliam. y+
no y mae mynyd ethna. a brỽnstan yn ỻos+
gi yndaỽ yn|wastat. Yn|y moroed hynny
y maent karibdis a|ssiỻ˄e perigleu moraỽl.
Yno y buant gynt y ciclopes. Yno gyntaf
y kaffat comedia. Geyr ỻaỽ sicili y mae
mynyded ynyssed eolye. gyuarwyneb a
marsili y mae naỽ ynys a|elỽir stecades.
ni enir yno na neidyr na bleid. Yno y mae
anniveil a elwir solifuga a|lad dynyon ual
adayrcop. yno y mae ỻysseu apiascon. ac a
« p 245v | p 246v » |