LlGC Llsgr. Llanstephan 4 – tudalen 52r
Purdan Padrig
52r
ant y duỽ a seinei yndunt o gywod+
olaetheu pyngeu melys. a|chymeint
oed y gỽahan y·rỽng aduỽynder wy+
nebeu rei o·honunt a|e eglurder a chy ̷+
weirdeb eu gỽisgoed a|r rei ereiỻ a|r
gỽahan a vyd rỽng eglurder y seren
a|r ỻaỻ. Rei a|oed o·honunt a gỽisc
eur ymdanunt. Ereiỻ a phorffor gỽynn
a|meint gỽyrthuaỽr glas yndunt ym ̷+
danunt. FFuryf eu habit ac eu gỽisc
a|dangossei bop vn y|r marchaỽc yn
wahanredaỽl megys yd aruerynt
o|e gỽisgaỽ. yn|yr oes honn ymma ae
herwyd enryded ae herwyd urdas.
am·ryỽ liỽ amgen oed ar eu habit
ac o amgen eglurder y ỻethrynt. Rei
ohonunt megys brenhined coronaỽc
y gỽelit. Ereiỻ a|dygynt gỽisc eur
yn eu dỽylaỽ. Nyt oed lei amgen y
tegỽch a|r digrifỽch a|welei y marchawc
y rei kyfyaỽn yn|y ỻe hỽnnỽ no
hynaỽster a digrifỽch y kerdeu tec+
caf. Ac ny eỻit dywedut melysset
y clywit kywydolyaeth y seint o
bop parth yn moli duỽ. Paỽb amgen
oed lawen o|e briaỽt detwydyt e|hun.
« p 51v | p 52v » |