LlGC Llsgr. 3036 (Mostyn 117) – tudalen 257
Brut y Brenhinoedd
257
eu a delhei rac llaỽ. A hynny a vanagei ynteu y et+
win. Ac ỽrth hynny ny allei gatwallaỽn dyuot y
ynys prydein. A guedy gỽybot hynny o gatwalla+
ỽn; anobeithaỽ a oruc o tebygu na chaffei byth dy+
uot trachefyn ynys prydein. Ac o|r diwed sef y ca+
uas yn| y gyghor mynet hyt yn llydaỽ y atolỽyn
nerth a chanhorthỽy y| gan selyf vrenhin llydaỽ
megys y| gallei dyuot yỽ gyuoeth trachefyn. A th+
rossi a wnaethant eu hỽyleu parth a llydaỽ. Ac yn
hynny kyuodi gỽynt kythraỽl gỽrthỽyneb yn
eu herbyn. Ac yn deissyuyt guascaru eu llyghes
hyt nat oed vn llog y gyt a|e gilyd. A diruaỽr ofyn
a dygyrchỽys llywyd llog y brenhin. Ac ymadaỽ a|e
lyỽ a oruc. Ac yuelly y buant ar vaỽd yn gyhyt ar
nos mal y dyccei y tonneu hỽnt ac yma. A phan
doeth y dyd trannoeth y doethant y ynys vechan y
tir. Sef oed y henỽ Garnarei. A guedy caffel y tir o+
nadunt trỽy diruaỽr o lauur a mordỽy; cleuychu
a oruc y brenhin o ỽrthtrỽm heint. yrỽg dolur colli
y| wyr ar tymhestyl ar mordỽy ar diuroed ar alltuded
oed arnaỽ ynteu e| hun. A chyn trymhet uu y heint
ac na lewes teir nos a| thri dieu na bỽyt na diaỽt.
Ar petweryd dyd y doeth arnaỽ blys kic hely. A gue+
dy menegi hynny o·honaỽ y vreint hir; kymryt
bỽa a wnaeth breint a mynet y crỽydraỽ yr ynys
y edrych a damweinhei idaỽ caffel y vlys yỽ arglỽyd.
A guedy na chauas dim. goueileint a| thristit a gym+
« p 256 | p 258 » |