LlGC Llsgr. Peniarth 11 – tudalen 78r
Ystoriau Saint Greal
78r
ỽynt a gerdassant gyn beỻet ac na welyn dim tir o vn parth
udunt. Ac ueỻy y buant ỽy yn hỽylaỽ yny vu dyd. Ac yna
galaath a|ovynnaỽd y peredur ac y vỽrt pa le y kaỽssoedynt
ỽy ysgraff kyn|decket a honno. a bỽrt a dywaỽt na|s|gỽydyat
ef. ac yna peredur a|dywaỽt y antur ef ual y clywssaỽch chỽi
o|r blaen. a|pha|delỽ y dywaỽt yr offeiryat idaỽ yr ymgaffei yn
ehegyr a|bỽrt ac a galaath. Eissyoes heb·y peredur ny dywaỽt
ef ymi dim am y vorwyn racko. Myn vyng|cret heb·y galaath
ny dathoedywn i yma pany bei y vorwyn racko. kanys ny
buassỽn eirmoet ar y fford honn. ac ny thebygassỽn inheu
aỽch kaffael chỽi aỽch deu y myỽn ỻe mor estronaỽl a|hwnn.
Ac yna pob vn a|dywaỽt y gyflỽr y|ỽ gilyd a|e anturyeu. a
bỽrt a|dywaỽt ỽrth galaath. arglỽyd heb ef pei atuei yman
laỽnslot dy dat ti. nyt oed arnan* eissyeu dim ual na beym
lawen. ac ymdidan ueỻy a|orugant yny vu aỽr naỽn. Ac yna
ỽynt a|doethant y dir ac y ynys diffeith y·rỽng dỽy greic. a
phan|doethant ỽy yno ỽynt a|welynt ysgraff araỻ. ac yna
y vorwyn a|dywaỽt. arglỽydi heb hi yn|yr ysgraff racko y ma+
e yr antur o achaỽs yr hỽnn y peris duỽ y chwi dyuot y·gyt.
ac am hynny reit yỽ yỽch vynet o|honn y|r ỻaỻ. Ni a|wna+
ỽn hynny heb ỽynteu yn ỻawen. ac y|maes o|r ysgraff yd|aeth+
ant. a|chymryt yr vnbennes gyt ac ỽynt a|orugant. A phan do+
ethant ỽy hyt att yr ysgraff. tegach a maỽrweirthogach y gỽ+
elsant ỽy honno no|r gyntaf. a ryued vu ganthunt na wels+
ant yndi na gỽr na gỽreic. a|dynessau attei a|orugant. ac ar+
ganuot ar vỽrd yr ysgraff ỻythyr yn ysgrivennedic. ac yn
« p 77v | p 78v » |