Chwilio
Tra bo’r rhestr eiriau yn ddefnyddiol er mwyn darganfod geiriau unigol, mae’r moddion chwilio yn cynnig sawl ffordd wahanol o chwilio’r deunydd.
Cyflawnir pob chwiliad fesul tudalen, a dychwelir y canlyniadau ar ffurf dolenni at dudalennau.
Gan fod y moddion chwilio yn gweithredu fesul tudalen, ni ddarganfyddir cymalau sy’n estyn dros dudalennau. Mae’r un peth yn wir am chwiliadau agosrwydd
Nodyn: ar gyfer y moddion chwilio,
- ystyrir C a K yn gyfartal, ac ymddangosant fel C yn y rhestr hon
- ystyrir y deugraffau Ch, Dd, Ff, Ng, Ll, Ph, Rh, a Th yn llythrennau sengl.
- mae’r llythrennau ‘middle welsh v’ ỽ a ‘middle welsh ll’ ỻ yn ymddangos fel w ac ll yn y rhestr hon;
- mae’r llythyren unigryw sy’n ymddangos fel ð yn y trawsgrifiad o lsgr. Peniarth 20 yn ymddangos fel dd yn y rhestr hon.